2014 Rhif 3087 (Cy. 308)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1396 (Cy. 141)). Maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 1).

Mae’r Rheoliadau yn gwahardd defnyddio enwau penodedig wrth werthu a hysbysebu cynhyrchion rheoleiddiedig os nad yw’r cynhyrchion yn bodloni gofynion penodol o ran eu cyfansoddiad (rheoliad 4 ac Atodlen 1).

 

    Yn ddarostyngedig i eithriad, mae’r Rheoliadau yn gwahardd gwerthu cynhyrchion rheoleiddiedig heb eu coginio sy'n cynnwys ymysg eu cynhwysion rannau penodedig o garcas unrhyw rywogaeth o anifail mamalaidd (rheoliad 5).

Mae’r Rheoliadau yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau bwyd ac awdurdodau iechyd porthladd i orfodi’r Rheoliadau (rheoliad 6).

Mae rheoliad 7 yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16) gydag addasiadau. Mae hyn yn cynnwys cymhwyso adran 10(1) a (2) (gydag addasiadau) er mwyn gallu cyflwyno hysbysiad gwella sy’n ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â rheoliadau 4(1) neu (2) neu 5(1). Mae’r darpariaethau, fel y’u cymhwysir, yn peri ei bod yn drosedd i fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwella. Hefyd, mae’r Rheoliadau yn cymhwyso adrannau 37(1) a (6) a 39 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 gydag addasiadau, er mwyn gallu apelio yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad gwella (rheoliad 7).

Mae’r Rheoliadau hefyd yn cymhwyso darpariaethau penodol eraill o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, gydag addasiadau (rheoliad 7 ac Atodlen 2).

Yn ogystal â dirymu Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004, mae’r Rheoliadau’n dirymu Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) (Diwygio) 2008 (O.S. 2008/713 (Cy. 74)) (rheoliad 8).

Mae rheoliad 9 ac Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad rheoleiddiol wedi ei lunio ynglŷn â’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW.

 

 


2014 Rhif 3087 (Cy. 308)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014

Gwnaed                            18 Tachwedd 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       20 Tachwedd 2014

Yn dod i rym                        13 Rhagfyr 2014

CYNNWYS

1.       Enwi, cymhwyso a chychwyn

2.       Dehongli

3.       Cwmpas

4.       Cyfyngiadau ar ddefnyddio enwau penodol

5.       Rhannau o’r carcas mewn cynhyrchion rheoleiddiedig heb eu coginio

6.       Gorfodi

7.       Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf

8.       Dirymiadau

9.       Diwygiadau canlyniadol

 

         ATODLEN 1  —  Disgrifiadau neilltuedig

         ATODLEN 2  —  Cymhwyso ac addasu darpariaethau eraill y Ddeddf

         ATODLEN 3  —  Diwygiadau canlyniadol

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 4(1), (2), (3), ac (8) a 10 o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009([1]) ac adrannau 6(4)([2]), 16(1)(a) ac (e)([3]), 26(1)(a) ac 48(1)([4]) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990([5]) a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru([6]).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ystyried cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)([7]) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([8]) yn ystod y broses o baratoi a gwerthuso’r Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 13 Rhagfyr 2014.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cig” (“meat”) yw cyhyrau ysgerbydol rhywogaethau mamalaidd ac adarol ynghyd â meinwe glynol neu feinwe a gynhwysir yn naturiol y cydnabyddir eu bod yn ffit i’w bwyta gan bobl ond nid yw’n cynnwys cig a wahanwyd yn fecanyddol fel y’i diffinnir ym mhwynt 1.14 o Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid([9]);

mae i “cynhwysyn” yr ystyr a roddir i “ingredient” yn Erthygl 2(2)(f) o FIC;

ystyr “cynnyrch rheoleiddiedig” (“regulated product”) yw bwyd sy’n cynnwys un o’r canlynol fel cynhwysyn (pa un a yw’r bwyd hefyd yn cynnwys unrhyw gynhwysyn arall ai peidio)—

(a)    cig;

(b)    cig wedi ei wahanu’n fecanyddol fel y’i diffinnir ym mhwynt 1.14 o Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor;

(c)    calon, tafod, cyhyrau’r pen (heblaw maseterau), carpws, tarsws neu gynffon unrhyw rywogaeth famalaidd neu adarol y cydnabyddir ei fod yn ffit i’w fwyta gan bobl;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “FIC” (“FIC”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004([10]);

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu roi ar ddangos i’w werthu ac mae’n cynnwys meddu ar rywbeth i’w werthu;

ystyr “heb ei goginio” (“uncooked”), mewn perthynas â bwyd, yw bwyd na fu drwy broses goginio drwy’r bwyd cyfan fel bod y bwyd yn cael ei werthu ar y sail y bydd angen ei goginio ymhellach cyn ei fwyta.

Cwmpas

3.(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i fwyd sy’n barod i’w gyflenwi i’r defnyddiwr olaf neu i arlwywr mawr.

(2) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd—

(a)    nas bwriedir i’w werthu ar gyfer ei fwyta gan bobl; neu

(b)    y mae Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004([11]) yn gymwys iddo.

(3) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw gynnyrch y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru o ran arall o’r Deyrnas Unedig, o un o Wladwriaethau’r AEE (ac eithrio’r Deyrnas Unedig), o Aelod-wladwriaeth (ac eithrio’r Deyrnas Unedig) neu o Weriniaeth Twrci lle y cafodd ei farchnata’n gyfreithlon.

(4) Yn y rheoliad hwn—

mae i “arlwywr mawr” yr ystyr a roddir i “mass caterer” yn Erthygl 2(2)(d) o FIC; ac

mae i “defnyddiwr terfynol” yr ystyr a roddir i “final consumer” ym mhwynt 18 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Cyfyngiadau ar ddefnyddio enwau penodol

4.(1) Ni chaiff neb werthu na hysbysebu cynnyrch rheoleiddiedig gan ddefnyddio enw sy’n ymddangos yng ngholofn 1 o’r tabl yn  Atodlen 1 fel enw’r bwyd, boed wedi ei oleddfu gan eiriau eraill ai peidio, oni bai bod y bwyd yn cydymffurfio â’r gofynion priodol yng ngholofnau 2 a 3 o’r tabl hwnnw.

(2) Ni chaiff neb werthu na hysbysebu bwyd gan ddefnyddio enw sy’n ymddangos yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1, boed wedi ei oleddfu gan eiriau eraill ai peidio, yn y fath fodd ag i awgrymu, naill ai’n ddatganedig neu ymhlyg, bod y cynnyrch a ddynodir gan yr enw hwnnw yn gynhwysyn yn y bwyd oni bai bod y cynnyrch hwnnw yn gynhwysyn yn y bwyd a bod y cynnyrch hwnnw yn cydymffurfio â’r gofynion priodol yng ngholofnau 2 a 3 o’r tabl yn Atodlen 1 ar yr adeg y cafodd ei ddefnyddio fel cynhwysyn i baratoi bwyd.

Rhannau o’r carcas mewn cynhyrchion rheoleiddiedig heb eu coginio

5.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb werthu cynnyrch rheoleiddiedig heb ei goginio os defnyddiwyd unrhyw ran o’r carcas a bennir ym mharagraff (2) fel cynhwysyn wrth baratoi’r cynnyrch hwnnw.

(2) Dyma’r rhannau a bennir o’r carcas: ymennydd, traed, coluddyn mawr, ysgyfaint, oesoffagws, rectwm, coluddyn bach, madruddyn cefn, dueg, stumog, ceilliau a chadair/pwrs i unrhyw rywogaeth famalaidd.

(3) Nid yw’r gwaharddiad sydd ym mharagraff (1) yn cynnwys defnyddio’r coluddyn mamalaidd mawr neu fach fel croen selsig yn unig.

(4) Yn y rheoliad hwn mae’r gair “selsig” (“sausage”) yn cynnwys tsipolata, frankfurter, dolen, salami ac unrhyw gynnyrch tebyg.

Gorfodi

6. Dyletswydd awdurdod bwyd yn ei ardal ac awdurdod iechyd porthladd yn ei ardal yw gorfodi’r Rheoliadau hyn.

Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf

7.(1) Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2) Yn lle is-adran (1), rhodder—

(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with regulations 4(1) or (2) or 5(1) of the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)   state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision;

(b)  specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;

(c)   specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)  require the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period (not being less than 14 days) as may be specified in the notice.”

(3) Mae is-adrannau (1) a (6) o adran 37 o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)    yn lle is-adran (1), rhodder—

(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 7 of the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014, may appeal to the magistrates’ court.; a

(b)    yn is-adran (6)—

                           (i)    yn lle “(3) or (4)”, rhodder “(1)”; a

                         (ii)    ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.

(4) Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)    yn lle is-adran (1), rhodder—

(1) On an appeal against a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 7 of the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014, the magistrates’ court may either cancel or affirm the notice, and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the court may in the circumstances think fit.; a

(b)    yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution”.

(5) Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.

Dirymiadau

8.(1) Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)    Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004([12]); a

(b)    Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) (Diwygio) 2008([13]).

(2) Mae’r eitem sy’n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004 yn y tabl yn Rhan 4 o’r Atodlen i Orchymyn Cytuniad Lisbon (Newidiadau mewn Terminoleg neu Rifo) 2012([14]) wedi ei dirymu.

Diwygiadau canlyniadol

9. Mae Atodlen 3 yn cael effaith.

 

 

 

 

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

18 Tachwedd 2014

                    ATODLEN 1        Rheoliad 4

Disgrifiadau neilltuedig

Yn yr Atodlen hon—

ystyr “cig wedi ei halltu” (“cured meat”) yw bwyd sy’n cynnwys cig a halen halltu, pa un a yw’r bwyd yn cynnwys unrhyw gynhwysion eraill hefyd ai peidio;

ystyr “halen halltu” (“curing salt”) yw—

(a)    sodiwm clorid, os defnyddir digon ohono i gael effaith halltu sylweddol ar y cynnyrch;

(b)    potasiwm clorid, os defnyddir digon ohono i gael effaith halltu sylweddol ar y cynnyrch;

(c)    cyfuniad o unrhyw rai o sodiwm clorid, potasiwm clorid, sodiwm nitrid, potasiwm nitrid a sodiwm nitrid sydd wedi eu hawdurdodi i’w defnyddio yn Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd([15]), ac eithrio cyfuniad o sodiwm clorid a photasiwm clorid; neu

(d)    cyfuniad o sodiwm clorid a photasiwm clorid, os defnyddir digon ohono i gael effaith halltu sylweddol ar y bwyd.


Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Enw’r bwyd

Gofynion cynnwys cig neu gig wedi ei halltu

Gofynion ychwanegol

 

Rhaid i’r bwyd gynnwys dim llai na’r ganran o gig a ddynodir, pan fydd y cynhwysyn sy’n gig yn cynnwys y canlynol:

 

Cig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi ei halltu o foch yn unig

Cig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi ei halltu o adar yn unig, cwningod yn unig neu gyfuniad o adar a chwningod yn unig

Cig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi ei halltu o rywogaeth arall neu gymysgeddau eraill o gig

1. Byrgyr neu eidionyn

pa un a yw’n rhan o air arall ai peidio, ond gan eithrio unrhyw enw sy’n dod o fewn eitemau 2 neu 3 o’r tabl hwn.

67%

55%

62%

1. Os goleddfir yr enw “byrgyr” neu “eidionyn” gan enw ar fath o gig wedi ei halltu, rhaid i’r bwyd gynnwys canran o gig o’r math y mae’r math o gig wedi ei halltu a enwir wedi ei baratoi ohono sydd o leiaf yn hafal i’r lleiafswm o gynnwys cig sy’n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw.

2. Os goleddfir yr enw “byrgyr” neu “eidionyn” gan enw ar fath o gig, rhaid i’r bwyd gynnwys canran o’r cig hwnnw a enwir sydd o leiaf yn hafal i’r lleiafswm o gynnwys cig sy’n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw.

3. Os defnyddir yr enw “byrgyr” neu “eidionyn” i gyfeirio at gynhwysyn cyfansawdd sy’n cynnwys cymysgedd o gig a chynhwysion eraill, fel rholyn bara, bydd y gofynion hyn yn gymwys i’r cymysgedd cig yn unig, fel pe bai’r cymysgedd cig yn gynnyrch rheoleiddiedig y defnyddiwyd ei enw fel enw’r bwyd wrth ei labelu neu ei hysbysebu.

2. Byrgyr rhad neu eidionyn rhad

pa un a yw “byrgyr” neu “eidionyn” yn ffurfio rhan o air arall ai peidio.

50%

41%

47%

1. Os goleddfir yr enw “byrgyr rhad” neu “eidionyn rhad” gan enw ar fath o gig wedi ei halltu, rhaid i’r bwyd gynnwys canran o gig o’r math y mae’r math o gig wedi ei halltu a enwir wedi ei baratoi ohono sydd o leiaf yn hafal i’r lleiafswm o gynnwys cig sy’n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw.

2. Os goleddfir yr enw “byrgyr rhad” neu “eidionyn rhad” gan enw ar fath o gig, rhaid i’r bwyd gynnwys canran o’r cig hwnnw a enwir sydd o leiaf yn hafal i’r lleiafswm o gynnwys cig sy’n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw.

3. Os defnyddir yr enw “byrgyr rhad” neu “eidionyn rhad” i gyfeirio at gynhwysyn cyfansawdd sy’n cynnwys cymysgedd o gig a chynhwysion eraill, fel rholyn bara, bydd y gofynion hyn yn gymwys i’r cymysgedd cig yn unig, fel pe bai’r cymysgedd cig yn gynnyrch rheoleiddiedig y defnyddiwyd ei enw fel enw’r bwyd wrth ei labelu neu ei hysbysebu.

3. Hambyrgyr -  pa un a yw’n ffurfio rhan o air arall ai peidio.

67%

Ddim yn gymwys

62%

1. Os defnyddir yr enw “hambyrgyr” rhaid i’r cig a ddefnyddir wrth baratoi’r bwyd fod yn gig eidion, porc neu gymysgedd o’r ddau.

2. Os goleddfir yr enw “hambyrgyr” gan enw ar fath o gig, rhaid i’r bwyd gynnwys canran o’r cig hwnnw a enwir sydd o leiaf yn hafal i’r lleiafswm o gynnwys cig sy’n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw.

3. Os defnyddir yr enw “hambyrgyr” i gyfeirio at gynhwysyn cyfansawdd sy’n cynnwys cymysgedd o gig a chynhwysion eraill, fel rholyn bara, bydd y gofynion hyn yn gymwys i’r cymysgedd cig yn unig, fel pe bai’r cymysgedd cig yn gynnyrch rheoleiddiedig y defnyddiwyd ei enw fel enw’r bwyd wrth ei labelu neu ei hysbysebu.

4. X a dorrwyd yn fân, os rhoddir yn lle’r “X” yr enw “cig” neu “cig wedi ei halltu” neu enw ar fath o gig neu gig wedi ei halltu, pa un a gynhwysir yr enw ar y math o gig ai peidio.

75%

62%

70%

Dim gofynion ychwanegol.

5. X a gyffeithiwyd neu gorn X, os rhoddir yn lle’r “X” yr enw “cig” neu enw ar fath o gig, oni oleddfir yr enw gan eiriau sy’n cynnwys enw bwyd heblaw cig.

120%

120%

120%

1. Rhaid i’r bwyd gynnwys cig a gyffeithiwyd yn unig.

2. Os bydd enw’r bwyd yn cynnwys enw ar fath o gig, rhaid i’r cig a ddefnyddir wrth baratoi’r bwyd fod o’r math a enwir yn unig.

3. Rhaid i gyfanswm y braster yn y bwyd beidio â bod yn fwy na 15%.

6. Torth gig neu dorth X, os rhoddir yn lle’r “X” enw ar fath o gig neu gig wedi ei halltu.

67%

55%

62%

Dim gofynion ychwanegol.

7. Pastai gig, pei cig neu bwdin cig

Yr enw “pastai”, “pei” neu “pwdin” wedi ei oleddfu gan enw ar fath o gig neu gig wedi ei halltu oni oleddfir ef hefyd gan enw bwyd heblaw cig neu gig wedi ei halltu—

(a) yn seiliedig ar bwysau’r cynhwysion pan fo’r bwyd heb ei goginio,

(b) ond os yw’r bwyd yn pwyso—

 

(i) dim mwy na 200g a dim llai na 100g; neu

 

(ii) llai na 100g.

 

 

Pastai helgig neu bei helgig—

(a) yn seiliedig ar bwysau’r cynhwysion pan fo’r bwyd heb ei goginio,

(b) ond os yw’r bwyd yn pwyso—

 

(i)  dim mwy na 200 g a dim llai na 100 g; neu

 

(ii)_llai na 100 g.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

12.5%

 

 

 

 

 

 

 

11%

 

 

 

10%

 

 

 

12.5%

 

 

 

 

 

 

 

 

 

11%

 

 

 

10%

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

12.5%

 

 

 

 

 

 

 

11%

 

 

 

10%

 

 

 

12.5%

 

 

 

 

 

 

 

 

 

11%

 

 

 

10%

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

12.5%

 

 

 

 

 

 

 

11%

 

 

 

10%

 

 

 

12.5%

 

 

 

 

 

 

 

 

 

11%

 

 

 

10%

 

Dim gofynion ychwanegol.

8. Pastai Albanaidd neu bei Albanaidd

Yn seiliedig ar bwysau’r cynhwysion pan fo’r bwyd heb ei goginio.

10%

10%

10%

Dim gofynion ychwanegol.

9. Yr enw “pastai”, “pei” neu “pwdin” wedi ei oleddfu gan y geiriau “cig” neu “cig wedi ei halltu” neu gan enw ar fath o gig neu gig wedi ei halltu ac wedi ei oleddfu hefyd gan enw bwyd heblaw cig neu gig wedi ei halltu—

(a) pan fo’r goleddfiad cyntaf (sy’n ymwneud â’r cig) yn dod o flaen yr olaf

(b) pan fo’r goleddfiad olaf (nad yw’n ymwneud â chig) yn dod o flaen y cyntaf.

Yn seiliedig, yn y ddau achos, ar bwysau’r cynhwysion pan fydd y bwyd heb ei goginio.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

7%

 

 

 

 

6%

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

7%

 

 

 

 

6%

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

7%

 

 

 

 

6%

Dim gofynion ychwanegol.

10. Pasti, Bridie rhôl selsig neu

sosej rôl

Yn seiliedig ar bwysau’r cynhwysion pan fo’r bwyd heb ei goginio.

6%

6%

6%

Dim gofynion ychwanegol.

11. Selsigen neu sosej  (heb gynnwys yr enw “selsigen” neu “sosej” pan oleddfir ef gan y geiriau “afu/iau” neu “tafod” neu’r ddau), dolen, tsipolata neu gig selsig neu gig sosejys

(a) os goleddfir yr enw gan yr enw “porc” ond nid gan enw unrhyw fath arall o gig; neu

 

(b) ym mhob achos arall.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

42%

 

 

 

 

 

32%

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ddim yn gymwys

 

 

 

 

26%

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ddim yn gymwys

 

 

 

 

30%

 

 

Dim gofynion ychwanegol.

Nodiadau:

1. Mewn perthynas ag eitemau 4, 5 a 6, seilir y canrannau yng ngholofn 2 ar bwysau’r cig amrwd a ddefnyddir i wneud y bwyd (“y cynhwysyn cig amrwd”) fel canran o bwysau’r cynnyrch gorffenedig wedi ei goginio. Mewn perthynas â’r eitemau eraill, seilir y canrannau ar bwysau’r cynhwysyn cig amrwd a ddefnyddir i wneud y bwyd fel canran o gyfanswm pwysau’r holl gynhwysion a ddefnyddir i wneud y bwyd (gan gynnwys y cynhwysyn cig amrwd) ar adeg eu defnyddio fel cynhwysyn.

2. Mae swm y cig a bennir yn y tabl i’w ganfod gan ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â chyfanswm y cynnwys braster a meinwe gysylltiol ym mhwynt 17 o Ran B o Atodiad VII i FIC, gan gynnwys unrhyw addasiadau angenrheidiol ar i lawr mewn achos pan fo cyfanswm y cynnwys braster a meinwe gysylltiol yn y cynnyrch rheoleiddiedig yn fwy na’r gwerthoedd a ddynodir yn y tabl ym mhwynt 17 o Ran B o Atodiad VII i FIC.

 


                    ATODLEN 2        Rheoliad 7

Cymhwyso ac addasu darpariaethau eraill y Ddeddf

 

Colofn 1

Darpariaethau’r Ddeddf

Colofn 2

Addasiadau

Adran 2([16]) (ystyr estynedig “sale” etc.)

Yn lle “this Act” (yn y ddau fan lle y mae’n digwydd) rhodder “the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014”.

Adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i’w fwyta gan bobl)

Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014”.

Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall)

Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 7(1) of the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014,”.

Adran 21(1) a (5) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)

Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 7(1) of the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014,”.

Adran 30(8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth o dystysgrifau a roddir gan ddadansoddwr neu archwiliwr bwyd)

Yn lle “this Act” rhodder “the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014”.

Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion)

Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014”.

 

Adran 35(1)([17]) a (2) (cosbau am droseddau)

Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above”, mewnosoder “, as applied and modified by regulation 7(5) of, and Schedule 2 to, the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014,”.

Ar ôl is-adran (1), mewnosoder yr is-adran ganlynol—

“(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 7(1) of the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014, shall be liable, on summary conviction, to a fine not exceeding level 5 on the standard scale.”

Yn is-adran (2)—

(a)  yn lle “any other offence under this Act”, rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 7(5) of, and Schedule 2 to, the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014,”; a,

(b) ym mharagraff (b), yn lle “the relevant amount” rhodder “the statutory maximum”.

Adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol)

Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 7(1) of the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014,”.

Adran 36A([18]) (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd)

Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 7(1) of the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014,”.

Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll)

Yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Products Containing Meat etc. (Wales) Regulations 2014”.

                    ATODLEN 3        Rheoliad 9

Diwygiadau canlyniadol

Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013

1. Mae Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013([19]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)    hepgorer y diffiniad o “cynnyrch cig” (“meat product”);

(b)    yn lle’r diffiniad o “Rheoliadau Cynhyrchion Cig” (“Meat Products Regulations”) rhodder—

“ystyr “Rheoliadau Cynhyrchion Cig” (“Meat Products Regulations”) yw Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014;”;

(c)     ar ôl y diffiniad o “cinio ysgol” (“school lunch”), mewnosoder—

“mae gan “cynnyrch sy’n cynnwys cig” (“product containing meat”) yr un ystyr â “cynnyrch rheoleiddiedig” (“regulated product”) yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014;”.

3. Yn Atodlen 3, ym mharagraff 8—

(a)    yn is-baragraff (1) yn lle “gynnyrch cig” rhodder, “gynnyrch sy’n cynnwys cig”;

(b)    yn is-baragraff (2) yn lle “gynhyrchion cig” rhodder, “gynhyrchion sy’n cynnwys cig”;

(c)    yn is-baragraff (3) yn lle “cynnyrch cig” rhodder, “cynnyrch sy’n cynnwys cig”;

(d)    yn is-baragraff (4)—

                           (i)    yn lle “gynhyrchion cig” rhodder, “gynhyrchion sy’n cynnwys cig”; a

                         (ii)    yn lle “Atodlen 2” rhodder, “Atodlen 1”.

(e)    yn is-baragraff (5)—

                           (i)    yn lle “gynnyrch cig” rhodder, “gynnyrch sy’n cynnwys cig”;

                         (ii)    yn lle “rheoliad 6(2)” rhodder, “rheoliad 5(2)”; a

                       (iii)    yn lle “rheoliad 6(3)” rhodder, “rheoliad 5(3)”.

(f)     yn is-baragraff (6) yn lle “Atodlen 2” rhodder, “Atodlen 1”; ac

(g)    yn is-baragraff (7) yn lle “Atodlen 2” rhodder, “Atodlen 1”.

 



([1])           2009 nawm 3.

([2])           Diwygiwyd adran 6(4) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40), paragraffau 7, 10(1) a (3) o Atodlen 5, ac Atodlen 6, i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28), ac O.S. 2002/794.

([3])           Diwygiwyd adran 16(1) gan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

([4])           Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

([5])           1990 p. 16.

([6])           Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999), ac fe’u trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p. 32).

([7])           Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraffau 7 ac 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

([8])           OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t. 1).

([9])           OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 55, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 633/2014 (OJ Rhif L 175, 14.6.2014, t. 6).

([10])         OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t. 18, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 78/2014 (OJ Rhif L 27, 30.1.2014, t. 7).

([11])         O.S. 2004/314 (Cy. 32), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/3254 (Cy. 247), 3111 (Cy. 231), 2007/2753 (Cy. 232), 2011/2131.

([12])         O.S. 2004/1396 (Cy. 141), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2008/713 (Cy. 74), 2012/1809.

([13])         O.S. 2008/713 (Cy. 74).

([14])         O.S. 2012/1809, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([15])         OJ Rhif L 354, 31.12.2008, t. 16, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1084/2014 (OJ Rhif L 298, 16.10.2014, t. 8).

([16])         Diwygiwyd adran 2 gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

([17])         Mae adran 35(1) wedi ei diwygio gan baragraff 42 o Atodlen 26 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) o ddyddiad sydd i’w bennu.

([18])         Mewnosodwyd adran 36A gan baragraff 16 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

([19])         Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/1984 (Cy. 194)).